|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2012 |
|
|||
|
Amser: |
08:30 - 09:02 |
|
|||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Jocelyn Davies William Graham Jane Hutt Aled Roberts |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Anna Daniel (Clerc)
|
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, y Dirprwy Lywydd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd Aled Elwyn Jones, y Clerc Gweithdrefnau Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor i’w cyhoeddi.
3. Trefn Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Ddydd Mawrth, cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai angen ethol Dirprwy Lywydd Dros Dro ar gyfer Cyfarfod Llawn dydd Mercher yn absenoldeb y Dirprwy Llywydd.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd Arweinydd y Tŷ i ddarparu rhagor o wybodaeth am Reoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012. Cynhelir dadl ar y rheoliadau hyn ar 10 Gorffennaf.
Nododd y Pwyllgor amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3(iii) Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau a ganlyn o fusnes:
Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2012 -
· Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru (45 munud)
· Dadl ar adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru (45 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Sŵn Tyrbinau Gwynt (45 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn Busnes y Cynulliad.
4. Deddfwriaeth
4(i) Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil erbyn 23 Tachwedd 2012. Yn amodol ar sicrhau cytundeb y Cynulliad ar y Bil yng Nghyfnod 1, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cwblhau trafodion Pwyllgor Cyfnod 2 erbyn 1 Tachwedd 2013.
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a oedd yn mynegi pryder ynghylch y dyddiad cau arfaethedig ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 1 ar y Bil, o gofio’r anawsterau y mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi’u dioddef mewn perthynas â’i gyfarfodydd ar fore dydd Mawrth, a’r galwadau parhaus ar y Pwyllgor i wneud gwaith cyffredinol ar ymchwiliadau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried y slotiau hynny ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fel rhan o’r adolygiad o strwythur y pwyllgorau.
4(ii) Memorandwm Cymhwysedd Deddfwriaethol: y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio
Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod papur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cymhwysedd Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Gwener 27 Gorffennaf 2012, fel y gellir cynnal dadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Medi 2012.
4(iii) Ymateb y Pwyllgor Busnes i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU
Trafododd y Pwyllgor Busnes ei ymateb drafft i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU, a chytunodd y Pwyllgor arno. Caiff yr ymateb hwn ei osod gerbron y Cynulliad a’i anfon at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn y cynhelir dadl ar y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Mehefin.
5. Pwyllgorau
5(i) Y Pwyllgor Menter a Busnes: Cais i ymweld â Phrifysgol Glyndŵr ac Airbus ar 28 Mehefin 2012
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gymeradwyo cais gan y Pwyllgor Menter a Busnes i gynnal cyfarfodydd anffurfiol ym Mhrifysgol Glyndŵr a’r cyffiniau ddydd Iau 28 Mehefin 2012.
6. Cyfarfod Llawn
6(i) Ailwampio sesiynau Cyfarfod Llawn dydd Mercher
Rhoddodd Rheolwyr Busnes ystyriaeth bellach i gynigion ar gyfer ailwampio busnes y Cynulliad ar brynhawniau Mercher, a chytunodd y rheolwyr i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno cwestiynau ar faterion amserol.